• Ein Cynnig

Ym mis Chwefror 2014, rhoddodd Cyngor Sir Ynys Môn gymeradwyaeth amlinellol i Conygar Stena Line Ltd (gyda’r holl faterion wedi’u cadw) ar gyfer Cynllun Adfywio Glannau Caergybi.

Rhoddwyd y caniatâd cynllunio amlinellol yn ddarostyngedig i amod a oedd yn cyfyngu amser ar weithrediad y datblygiad, â dyddiad gorffen ym mis Chwefror 2021. Oherwydd hynny, mae’r caniatâd cynllunio bellach wedi dod i ben.

Fodd bynnag, mae’r Ymgeisydd newydd, Conygar Holyhead Ltd, yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i brosiect adfywio yng Nglannau Caergybi ac, ers rhoi caniatâd cynllunio amlinellol, mae wedi achub ar y cyfle i newid a mireinio dyluniad y cynllun i roi cyfrif gwell am yr amodau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

Mae cynlluniau Conygar wedi’u cynllunio i sicrhau adfywiad llwyr yn ardal y glannau a’u nod yw:

  • Denu mwy o ymwelwyr i Gaergybi ac Ynys Môn trwy wella’r ardal fel cyrchfan hamdden a thwristiaeth;
  • Adfywio’r ardal trwy fuddsoddiad parhaus trwy adnewyddu ac ailddefnyddio’r Adeiladau Rhestredig a’r Strwythurau Rhestredig ar hyd y glannau a’r arfordir;
  • Gwella mynediad i’r cyhoedd, ymestyn y Promenâd, gwella man agored cyhoeddus ar hyd Ffordd y Traeth a chreu traeth newydd i’r dwyrain o’r cyfleuster morglawdd a marina newydd; a
  • Gweithio mewn partneriaeth â busnesau lleol sefydledig ac atyniadau twristaidd eraill megis Parc Gwledig y Morglawdd i ddarparu buddion cymunedol ehangach.