• Cynllun Datblygu Glannau Caergybi

Croeso

Ar 18fed Hydref 2021, cyflwynodd Conygar Holyhead Ltd ei gais cynllunio yn ffurfiol i Gyngor Sir Ynys Môn ar gyfer Cynllun Adfywio Glannau Caergybi.

Mae Conygar yn arwain adfywiad Glannau Caergybi â chynlluniau i’w trawsnewid yn ddatblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys marina newydd, ac eiddo preswyl a masnachol, gan gynnwys trosi Tŷ Soldiers Point a Thŷ Porth-y-Felin, wedi’i osod mewn tirwedd ddeniadol sy’n hygyrch i’r cyhoedd.

Mae fersiwn cyflwyno’r cais cynllunio, sydd ar gael i’w weld ar y dudalen we hon, yn ystyried y sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r broses ymgynghori statudol cyn-ymgeisio yn ddiweddar, a’r ymarfer ymgysylltu cymunedol anffurfiol (h.y. anstatudol) a gynhaliwyd yn gynharach yn 2021. Mae canlyniadau’r ymarferion hyn wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio.

Yng ngoleuni’r cyfyngiadau o amgylch pandemig COVID-19, a hefyd maint y ddogfennaeth ategol, cynhyrchwyd y wefan hon i sicrhau bod gan ymgynghorwyr y Cyngor ac unrhyw aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb fynediad diogel ac effeithiol i’r pecyn llawn o ddogfennaeth y cais cynllunio.

Os hoffech gyflwyno sylwadau ar gynnwys y cais cynllunio, dylid cyflwyno’r rhain yn uniongyrchol i’r Cyngor, gan nad oes cyfleuster i’w cyflwyno ar y wefan hon.

Os ydych chi am weld yr Arddangosfa Rithwir flaenorol, rhan o’r ymarfer ymgysylltu cymunedol anstatudol, cliciwch y ddolen isod:

Arddangosfa Rithwir